Darganfyddwch fwy yng Ngerddi Dyffryn
Dysgwch pryd mae Gerddi Dyffryn ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae Gerddi Dyffryn yn lle gwych i ddod â’r teulu, o’r plant lleiaf i neiniau a theidiau, mae yma rywbeth i ddiddanu pawb.
Dyma’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i’ch helpu i gynllunio diwrnod i’r teulu yng Ngerddi Dyffryn:
Mae Gŵyl y Blagur yn achlysur blynyddol yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i helpu teuluoedd i gysylltu â harddwch ac ystyr blagur. Rydym yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau rhwng 1 Mawrth a 31 Mai i helpu plant bach i werthfawrogi a dathlu'r natur o'u cwmpas yn ystod y tymor hwn o egni newydd a harddwch. Mae'r digwyddiadau hyn yn cynnwys sesiynau stori a llwybrau garddio, a gallwch eu gweld nhw i gyd yn adran ddigwyddiadau'r wefan hon.
Rhwng 25 Mai a 2 Mehefin ymunwch â ni ar lwybr llawn gweithgareddau a fydd yn eich dysgu chi a'ch rhai bach sut i ddenu bywyd gwyllt i’ch mannau gwyrdd eich hun.
Mae'r llwybr newydd sbon hwn yn llawn gemau gweithgar, ymarferol sy'n annog plant i roi eu hunain yn esgidiau byd natur. Ochr yn ochr â phob gêm mae enghraifft o sut y gallwch chi roi help llaw i fywyd gwyllt lleol hefyd. Mae'r cyfan yn rhan o Wythnos Arddio Genedlaethol y Plant, sy'n ceisio helpu plant i ddarganfod y llawenydd sy’n gysylltiedig â garddio, planhigion a natur.
Mae'r llwybr yn rhad ac am ddim (rhaid talu’r pris mynediad arferol) ac nid oes angen cadw lle. Ewch i'r Ganolfan Croeso wrth gyrraedd a gall y tîm eich anfon i'r cyfeiriad cywir.
Mae ddwy ardal chwarae wyllt yn Nyffryn, un y tu allan i’r rhwystr talu ger y ganolfan groeso ac un fwy o lawer yn yr Ardd Goed. Mae digon o le yn yr ardaloedd chwarae gwyllt i’r rhai bach losgi rhywfaint o egni a mwynhau’r mwd.
Ceisiwch gadw eich cydbwysedd ar hyd y coed enfawr a gafodd eu cwympo fel rhan o’r cynllun i adfywio’r ardd goed, sbonciwch o foncyff i foncyff ar hyd y cerrig camu a mwynhewch bicnic ar bonion picnic a gerfiwyd â llaw.
Mae’r ardal yn gartref i wiwerod, adar a llawer o fwystfilod bach, felly dewch â chwyddwydr neu finocwlars i gael golwg graffach.
Hyd yn oed rhwng ein digwyddiadau, mae Dyffryn yn opsiwn gwych am ddiwrnod allan i’r teulu. Gyda phob tymor newydd mae’r gerddi’n newid ac yn esblygu, felly mae bob amser rywbeth newydd i’w weld.
Mae gennym lwybrau tymhorol i chi eu mwynhau hefyd. Casglwch daflen o’r Ganolfan Groeso a fydd yn eich tywys at uchafbwyntiau tymhorol y gerddi. Gweler y dudalen Y Gerddi yn Nyffryn am ragor o wybodaeth am y llwybr tymhorol sydd ar gael nawr.
A gyda chaffi, siop a siop lyfrau ail-law (gyda dewis gwych o lenyddiaeth i blant ac oedolion ifanc) mae digon i’ch diddanu bob amser yng Ngerddi Dyffryn. Felly pryd bynnag y dewiswch ymweld, gallwch fod yn siŵr y gwnewch chi a’ch teulu atgofion i’w trysori.
Dysgwch pryd mae Gerddi Dyffryn ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mwynhewch brydau i dwymo’r galon neu snac ysgafn yn y caffi, gyda danteithion blasus yn goron ar eich ymweliad. A chofiwch alw i mewn i’r siop i brynu rhywbeth i gofio’ch ymweliad.
Mae gan Erddi Dyffryn sgôr o ddwy bawen. Dysgwch fwy am ymweld gyda’ch ci a sut rydym yn gwneud Dyffryn yn well fyth i gŵn.