Skip to content

Diwrnodau allan i’r teulu yng Nghastell Penrhyn

Small girl in a hat and dress sat in a flower meadow
Ymgollwch yn y dolydd | © National Trust Images/Chris Lacey

Mae rhywbeth i bawb yng Nghastell Penrhyn. Os ydych chi’n darganfod ein hystafelloedd moethus arbennig neu yn dilyn ein hanturiaethau tymhorol, ein tiroedd yw eich lle chwarae, felly ewch i archwilio!

Cynllunio eich ymweliad teuluol

Dyma’r wybodaeth y bydd arnoch ei hangen yn gryno i’ch helpu i gynllunio eich diwrnod yng Nghastell Penrhyn:

  • Cyfleusterau newid babanod ar gael ger y Ganolfan Groeso, yng nghwrt y gegin ac ym mwa’r Barbican.
  • Caiff pramiau eu caniatáu ar y llawr gwaelod. Ar gyfnodau prysur, mae’n bosib bydd gofyn i chi eu gadael wrth y fynedfa.

Digwyddiadau i'r teulu

Cewch wybod am ba ddigwyddiadau sydd ar y gweill ar gyfer teuluoedd:

Hanner Tymor Mis Mai yng Nghastell Penrhyn a'r Ardd

25 Mai - 2 Mehefin

Dros hanner tymor mis Mai, rydym yn dathlu Wythnos Genedlaethol Garddio i'r Plant. Ymunwch hefo ni mewn gweithgareddau plannu ar gyfer y teulu oll ac i gael gweld ein gerddi ffurfiol a gwyllt. Bydd y gerddi yn llawn bywyd gwyllt y gwanwyn, felly defnyddiwch chwyddwydr er mwyn cael bod yn dditectif yr ardd a gweld pa fywyd gwyllt welwch chi! Ac os ydych chi'n edrych i gael ychydig o ymarfer corff, bydd gemau yn yr ardd a hwyl a sbri yng nghystadleuaeth taflu esgidiau glaw.

Dro synhwyrol hefo ein Prif Arddwr

27 Mai, 1-2 yp

Ar Wythnos Arddio’r Plant, dewch i ddarganfod synhwyrau ysblennydd yr ardd ar daith tywys synhwyrol gyda’r Prif Arddwr yng Nghastell Penrhyn a’r Ardd. Mae’r daith tywys yma yn gyflwyniad perffaith i blant i fuddion garddio ac i’w annog nhw i fwynhau’r awyr agored. Mae’n rhaid i riant neu warcheidwad fynd gyda’u plant ar y daith. Mae niferoedd y daith yn gyfyngedig iawn felly archebwch eich lle nawr.

Archebwch eich lle

A close up a child's hands holding two fir cones and a dandelion flower at Speke Hall, Liverpool
Finding fir cones and dandelions | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Parciau chwarae yng Nghastell Penrhyn

Rook Wood

Heibio’r byrddau picnic wrth fynedfa iard y stablau, gallwch ddarganfod ein parc chwarae yn Rook Wood. Ewch i fyny drwy’r goedwig i fwynhau’r parc lle gallwch ddringo, swingio neu fynd ar y si-so.

Cwt Ogwen

Mae ein parc chwarae naturiol yng Nghwt Ogwen yn mynd a chi i lawr tuag at yr Afon Ogwen. Cewch hyd i fwa pren yn y prif faes parcio lle gallwch ddilyn y llwybr i lawr. Darganfyddwch ein cwt sy’n le perffaith i chwarae tŷ bach twt, neu i eistedd yn ddistaw a mwynhau sŵn a golygfa byd natur. Ar gyfer yr anturiaethwyr bach, mae’r parch chwarae antur i fyny’r llwybr, rhowch dro arni a gweld pwy all orffen y llwybr cyflymach.

Ymwelwyr yn edrych ar fynyddoedd Eryri o ardd Castell Penrhyn wrth iddi fachlud

Darganfyddwch fwy yng Nghastell Penrhyn a'r Ardd

Dysgwch pryd mae Castell Penrhyn a'r Ardd ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Clychau'r gog yng Nghastell Penrhyn, Cymru
Erthygl
Erthygl

Crwydrwch yr ystâd yng Nghastell Penrhyn 

Pam nad ewch chi am dro oddi ar y llwybrau cyfarwydd ac ymweld â’r guddfan i lawr ger Afon Ogwen. Bydd teuluoedd yn mwynhau’r ardal chwarae naturiol hefyd. Cofiwch ddod â’ch welis.

Y gromen fawr uwch ben y Grisiau Crand yng Nghastell Penrhyn gyda ffenestr yn y to a’r gwaith plastr
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Chastell Penrhyn 

Mae tu allan y castell yn cuddio tu mewn a addurnwyd yn oludog a chartref yr oedd gan y teulu Pennant feddwl mawr ohono. Dysgwch am rai o’r ystafelloedd rhyfeddol.

Gate from Walled Garden in winter at Penrhyn Castle
Llwybr
Llwybr

Taith darganfod natur Castell Penrhyn 

Mwynhewch daith gylchol o gwmpas rhannau llai cyfarwydd o dir y castell wrth i chi ddarganfod amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a natur sy’n cartrefu yma.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)