Skip to content

Diwrnodau allan i'r teulu yng Erddig

Mam a’i phlant yn plygu ger gwrych wedi ei docio a thiwlipau yn yr ardd o flaen y tŷ yn Erddig, Clwyd.
Ymwelwyr yn yr ardd yn Erddig | © National Trust Images/John Millar

Diddanu pawb gyda diwrnod llawn hwyl i'r teulu cyfan yn Erddig. Gydag erwau o barcdir, ardal chwarae naturiol a gweithgareddau tymhorol, mae digon i gadw’ch anturwyr bach yn brysur.

Cynllunio eich ymweliad ar gyfer y teulu

Cymerwch gip ar y wybodaeth yma i’ch help i gynllunio eich ymweliad nesaf ag Erddig:

  • Mae toiledau a chyfleusterau newid babanod wedi’u lleoli yn Iard y Domen. Mae toiledau compostio ychwanegol wedi’u lleoli yn Ffau’r Blaidd, ein hardal chwarae naturiol.
  • Caiff pramiau eu caniatáu ledled llawr gwaelod y tŷ yn unig, sy’n gwbl hygyrch, gyda lloriau carreg gwastad. Gallwch hefyd adael pramiau wrth fynedfa’r tŷ.

Hanner tymor mis Mai yn Erddig

Ymunwch â ni dros yr hanner tymor ym mis Mai (O ddydd Sadwrn 25 Mai tan ddydd Sul 2 Mehefin) yn Erddig wrth i ni ddathlu Wythnos Garddio Plant gyda nifer o ddigwyddiadau difyr i’r teulu cyfan.

Dewch yn un â natur wrth grwydro o amgylch yr ardd Restredig Gradd-I hon, heibio’r borderi bendigedig a’r gwelyau gwych o flodau, yn llawn o liwiau’r gwanwyn.

Ar 28 a 30 Mai yn unig, rhwng 11am - 3pm, rhowch gynnig ar baentio cerrig, plannu hadau a chwilio am drychfilod. Ar ôl gorffen, cofiwch alw heibio ardal chwarae naturiol Ffau’r Blaidd lle mae hyd yn oed mwy o hwyl i’w gael. Mwynhewch adeiladu ffau, rhowch gynnig ar y siglen raff, profwch eich cydbwysedd ar y trawstiau a llawer mwy.

Mae’r gweithgareddau am ddim, ond mae prisiau mynediad arferol yn berthnasol. Am ddim i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a phlant dan 5.

Haf o Hwyl

Ar eich marciau, barod, ac ymunwch â ni yn Erddig yr haf hwn i greu atgofion drwy chwarae, archwilio, a bod yn actif gyda'n gilydd.

O 20 Gorffennaf tan 1 Medi, rhowch gynnig ar y gweithgareddau chwaraeon hunan-arweiniad y gall y teulu cyfan eu mwynhau ar hyd a lled yr ardd, o glwydi i sbrintio.

Rhowch gynnig ar ddefnyddio hwla hwp - dechreuwch gyda’r lleiaf a gweithio eich ffordd drwy'r rhai mwy i weld pa un yw’r mwyaf y gallwch ei droelli. Dewch i wynebu her y cwrs rhwystrau yn ardal chwarae naturiol Ffau'r Blaidd, o neidio mewn siâp seren i sboncio drwy’r teiars. Sawl gwaith allwch chi gwblhau’r cwrs cyn blino? Yna heriwch eich teulu a’ch ffrindiau mewn gêm o rygbi tag. Gwisgwch y beltiau rygbi tag a cheisiwch dynnu’r tagiau o gefn beltiau eich gilydd - pwy fydd yn fuddugol?

Ar 24 Gorffennaf a 7 Awst, bydd yr adroddwr straeon Jake Evans hefyd yn ymweld i ysbrydoli dychymyg plant ifanc gyda’i straeon cyfareddol yn ystod egwyliau rhwng 12pm a 3pm.

Bob dydd Llun o 22 Gorffennaf ymlaen, rhwng 11am-3pm bydd cyfle i roi cynnig ar argraffu leino yn yr ystafell addysg - ysbrydolir y patrymau lino stamp gan y symbolau a’r siapiau a welwch ar y Gwely Ystad yn y tŷ.

Dewch i fwynhau Dydd Gwener Celfyddyd Gain, sy’n dychwelyd bob dydd Gwener o 26 Gorffennaf ymlaen, rhwng 11am a 3pm. Gall arlunwyr o bob oedran a gallu gael ysbrydoliaeth o’r ardd i greu campwaith celf i fynd adref gyda nhw.

Noddir Haf o Hwyl gan Starling Bank.

Plant yn chwarae yn yr ardd ym mis Hydref yn Erddig, Wrecsam.
Plant yn chwarae yn yr ardd ym mis Hydref yn Erddig, Wrecsam. | © National Trust Images/Oskar Proctor

Byw’n Wyllt yn Ffau'r Blaidd

Dewch i ymweld â’n hardal chwarae naturiol.

Mae'n bryd hopian, sgipio a neidio o gwmpas. Dewch i gadw’ch balans ar drawstiau, adeiladu ffeuau a dringo yn ein hardal chwarae naturiol sydd yng nghanol y Goedwig Fawr. Waeth beth fo’r tywydd, mae Ffau’r Blaidd yn lle gwych i losgi ychydig o egni.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Scarves and a handbag hung on coat pegs
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yn Erddig 

Edrychwch ar y mannau i fwyta a siopa yn Erddig. Mae’r rhan fwyaf yn ein hadeiladau hanesyddol ac mae pob pryniant yn ein helpu i ofalu am Erddig i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.

Blodau coed ceirios ar ddiwedd y daith gerdded coed yw yn yr ardd yn Erddig
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd Erddig 

O gennin Pedr yn y gwanwyn i 180 o wahanol fathau o afalau yn yr hydref, dysgwch am yr ardd furiog hon o’r 18fed ganrif ai gweithgareddau tymhorol a’r uchafbwyntiau.

Ci gyda blew cyrliog yn eistedd ar bentwr o bren wrth ymyl trên lliwgar ac arwydd ‘50 peth’ yn Erddig, Clwyd
Erthygl
Erthygl

Ymweld ag Erddig efo'ch ci 

Mae gan Erddig sgôr o ddwy bawen. Mae Erddig yn cynnig digon o gyfleoedd i rasio, neidio, ffroeni a sblasio i gŵn. Dysgwch am y parth oddi ar dennyn a chyfyngiadau ar fynediad a all effeithio ar eich cynlluniau.