Darganfyddwch fwy yn Ninefwr
Dysgwch pryd mae Dinefwr ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae’r parc yn Ninefwr yn doreth o hanes Cymreig ac yn gorchuddio ystâd 800 erw ar gyrion hen dref amaethyddol Llandeilo. Ymwelwch â Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a’r parc cyntaf yng Nghymru i gael ei enwi’n Warchodfa Natur Genedlaethol (GNG). Yn Ninefwr, fe welwch ficrocosm o dreftadaeth a natur Cymru ar un safle.
Yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf, mae’r dirwedd yn fôr o liw a phersawr. Mae’r blodau gwyllt yn wledd i’r llygaid a’r trwyn. Yr olygfa fwyaf trawiadol mae’n siŵr yw’r flanced o glychau’r gog yn y gwanwyn.
Mae’r ystâd yn gogwyddo tua chaeau gorlifdir afon Tywi, lle mae llynnoedd bach ar gyrion y gwastatir yn dod â harddwch a diddordeb ychwanegol i’r dirwedd.
Mae Dinefwr yn gartref i gasgliad eang ac amrywiol o gynefinoedd ac amgylcheddau. O weirgloddiau sy’n fôr o flodau i goetiroedd trwchus, o ardaloedd agored eang i goedwigoedd corsiog a dolydd gwlyb. Mae pob un o’r rhain yn gartref i gynefinoedd hanfodol i amrywiaeth o rywogaethau ac yn chwarae rôl hanfodol ym mioamrywiaeth gwledydd Prydain.
- Wynford Vaughan Thomas, darlledwr, newyddiadurwr ac awdur
Mae hwn yn baradwys i fyd natur. Yn ogystal â phoblogaethau mawr o rai o adar brodorol a mudol mwyaf diddorol Prydain, mae’r ystâd yn gartref i lawer o’n mamaliaid mwyaf cyfrinachol, y mae llawer o bobl yn treulio oes heb eu gweld; dyfrgwn, ffwlbartiaid, llygod y gwair a hyddod brith.
Mae’r ystâd yn gartref i barc ceirw canoloesol 100 erw o faint. Mae’r haid o dros gant o Hyddod Brith i’w clywed yn beichio a bloeddio o bob rhan o’r ystâd, yn enwedig ar drothwy’r cyfnod rhidio ym mis Hydref.
Fe welwch y Corvidae (teulu’r Fran) yn helpu gyda’r broses dwtio – maen nhw i’w gweld yn pigo ar groen sidanaidd y bwystfilod tra’n eistedd ar eu cyrn enfawr wrth i’r cyfnod rhidio agosáu.
Mae coetir hynafol Dinefwr yn gartref i rai o’r coed hynaf yng ngwledydd Prydain. Mae gennym dros 300 o goed derw, y mae rhai’n dros 400 oed, sy’n eu gwneud nhw’n hynafiaid go iawn. Maen nhw’n darparu ecosystemau hanfodol i amrywiaeth o rywogaethau. Hyd yn oed pan fo’r coed yn marw neu’n cwympo, dydyn ni ddim yn eu symud ymaith. Maen nhw’n aros yn eu hunfan i greu cynefin i blanhigion, bywyd gwyllt a ffyngau.
Yn ogystal â gofalu am y coed aeddfed, rydym yn plannu rhai newydd hefyd fel bod gennym goed ar wahanol gamau bob amser. Bydd mwy yn cael eu plannu yn y Parc Gwartheg Mewnol ac Allanol i ail-greu dyluniad y 18fed ganrif.
Yn y pendraw, caiff y planhigfeydd hyn eu rheoli fel y parc ceirw, fel porfeydd coediog. Drwy wneud hyn, rydym yn gobeithio y bydd Dinefwr bob amser yn enwog am ei hynaf-goed.
Dysgwch pryd mae Dinefwr ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae’r brîd prin a hynafol hwn wedi bod yn pori’r ardal hon ers dros 1000 o flynyddoedd ac yn gysylltiedig â Dinefwr ers y 9fed ganrif.
Wedi’u hadennill gan ddisgynyddion un o Dywysogion pwerus Cymru, bu Parc Dinefwr a Thŷ Newton yn gartref i’r teulu Rhys/Rice am dros dair canrif.
Yn swatio ym mharc Dinefwr ger Llandeilo, mae Tŷ Newton yn blasty Cymreig anffurfiol sy’n cynnig cyfuniad o’r hanesyddol a’r cyfoes.